O Arglwydd Dduw 'r Hwn bïa(u)'r (g)waith

1,((2,3,4,5,6,7),8);  1,2,(5);  1,3,4,(8);  1,3,6,7.
(Erfyn llwydd ar y gair)
O! Arglwydd Dduw, 'r Hwn bïau'r waith,
  Arddel dy faith wirionedd,
Fel byddo i bechod, o bob rhyw
  Gael marwol friw o'r diwedd.

Dy weinidogion gwisg â nerth,
  Yn brydferth o'r uchelder;
A doed dy Ysbryd Sanctaidd Di
  I argyhoeddi llawer.

Amlyga Di, O! Arglwydd Iôr,
  O fôr i fôr, dy fawredd;
A dangos i holl ddynol-ryw
  Mor union yw'r gwirionedd.

Llefara wrthym air mewn pryd,
  Dod ysbryd in i'th garu;
Datguddia inni'r oedfa hon
  Ogoniant person Iesu.

O gwna Dy eiriau megis tân
  Trwy'r Ysbryd Glân a'i ddoniau;
Dy air fel gordd yn awr a fo
  Mewn nerth yn dryllio creigiau.

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, dangos rym
  Dy nerthol lym wirionedd,
Rho rasol fendith yma'n awr
  I fwrw i lawr anwiredd.

Perffeithia, Iôr, dy nerth sydd fawr
  Yn ŵyneb dirfawr wendid,
Rho i'r newynog, tlawd, a chaeth,
  Ysbrydol faeth a rhyddid.

Disgwyliaf wrthyt uwch law neb,
  Na thro Dy wyneb ymaith;
Bydd imi'n Dduw, yn Dad, yn Frawd,
  Yn dirion iachawdwriaeth.
1,3: Edward Jones 1761-1836
2,5: John Hughes 1775-1854
4 : John Williams (Siôn Singer) c.1750-1807
6,7: Thomas Jones 1756-1820
8 : John Hughes 1775-1854

Tonau [MS 8787]:
Adelaide (J H Roberts 1848-1924)
Arennig (Breigel 1687-?)
Deganwy (Benjamin Williams 1839-1918)
Dymuniad (R H Williams [Corfanydd] 1805-76)
Eidduned (J R Jones 1765-1822)
Llanidloes (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Mary (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Mon (<1869)
Padarn (<1869)
St Jude (<1875)
St Seiriol (1770 Ifan Williams)
Tegid (<1876)
Trefaes (David Lewis 1828-1908)

gwelir:
  Amlyga Di O Arglwydd Iôr
  Corona'n hoedfa ar hyn o bryd
  O Arglwydd Dduw bydd ini'n borth
  O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr
  Rho ddawn a goleu Arglwydd Iôr
  Tyr'd Ysbryd Sanctaidd dangos rym
  Wel dyro eto gymhorth rhwydd

(Petitioning for success on the word)
O Lord God, whose is the work,
  Own thy vast truth,
So that sin, of every kind, may
  Get a mortal wound eventually.

Clothe thy servants with strength,
  Beautifully from the height;
And may Thy Holy Spirit
  To convince many.

Reveal, O Sovereign Lord,
  From sea to sea, thy greatness;
And show to the whole of humankind
  How straight is the truth.

Speak to us a word in season,
  Come, Spirit, for us to love thee;
Reveal to us during this service
  The glory of the person of Jesus.

O make Thy words like fire
  Through the Holy Spirit and his gifts;
Thy word be like a hammer now
  In strength smashing rocks.

Come, Holy Spirit, show the force
  Of thy strong, sharp truth,
Give a gracious blessing here now
  To cast down falsehood.

Perfect, Lord, thy strength which is great
  In the face of huge weakness,
Give the starving, poor, and captive,
  Spiritual nourishment and freedom.

I wait for thee above any hand,
  Do not turn Thy face away;
Be to me God, a Father, a Brother,
  A tender salvation.
tr. 2009,10 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~